Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2017
Amser: 09.03 -
10.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4141
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Sara Moran, Diabetes UK Beth Baldwin, Deisebydd Libby Dowling, Diabetes UK |
Staff y Pwyllgor: |
Kath Thomas (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 323KB) Gweld fel HTML (174KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Gymdeithas Strôc i ofyn am eu barn am y ddeiseb; a
· rhoi cyfle i'r deisebydd wneud sylw ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac unrhyw ymateb a geir gan y Gymdeithas Strôc.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, ac i roi cyfle i'r deisebydd wneud sylw arno cyn trafod y ddeiseb drachefn yn nhymor yr hydref.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
· yn gofyn am ragor o fanylion am amseriad yr adolygiad o fesurau diogelwch posibl ar gyfer yr A487 ac yn gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor am y canlyniad maes o law; ac
· yn gofyn a fydd ei swyddogion yn cwrdd â'r grŵp gweithredu.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· nodi'r ffaith i ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ddod i law yn union cyn yr oedd y papurau i fod i gael eu cyhoeddi, a rhoi cyfle arall i'r deisebydd gwneud sylw ar yr ymateb ac unrhyw ymateb a geir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; ac
· ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn:
o pa asesiad y mae wedi ei wneud o effaith y newidiadau i wasanaethau Obstetreg, Pediatreg a'r Uned Gofal Arbennig Babanod yn yr ardal ers iddynt gael eu canoli yn Ysbyty Glangwili;
o am ragor o wybodaeth am sut y mae cyfraddau marwolaethau amenedigol diweddar yn cymharu â'r cyfraddau a welwyd o dan y cyfluniad blaenorol o wasanaethau; ac
o a oes unrhyw ddata ar gael am amseroedd trosglwyddo cleifion i Ysbyty Glangwili o'u cymharu ag amseroedd trosglwyddo i ysbytai eraill o dan y trefniadau blaenorol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu'n ôl at y Llywydd fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad:
o yn nodi pryder y Pwyllgor ynghylch yr arafwch o ran cynyddu'r trafodion yn y Cynulliad sydd ar gael gyda chyfieithiad ar y pryd yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu gydag is-deitlau, yn enwedig yn yr amser ers cyflwyno'r ddeiseb yn 2014;
o yn gofyn i'r Comisiwn edrych ar yr opsiynau o ran datblygu rhaglen ar gyfer darparu gwasanaeth BSL a/neu is-deitlo ar gyfer cwestiynau yn y Cynulliad a thrafodion eraill o fewn amser priodol.
· Hysbysu'r deisebydd am benderfyniad y Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddo am wybodaeth fwy manwl am:
o sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella darpariaeth gwasanaethau i atal anhwylderau bwyta ymysg plant a phobl ifanc;
o nifer y plant a phobl ifanc sy'n dioddef o anhwylderau bwyta a gallu'r gwasanaethau presennol i ymdrin â'r galw; ac
· ar ôl i ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet ddod i law, ystyried a ddylid gwneud gwaith pellach ynglŷn â'r ddeiseb neu ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod cynlluniau i gael uned ddeintyddol symudol newydd ac ar y sail bod y deisebwyr yn fodlon ar y canlyniad.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried faint o ohebiaeth fanwl a gafwyd gan bob parti yn ystod y tair blynedd diwethaf, cytunodd i baratoi crynodeb o drafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, yn cynnwys ei fyfyrdodau a'i gasgliadau, a'i rannu hwnnw â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r deisebydd yn gynnar yn nhymor yr Hydref.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a chytunodd i awgrymu bod Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar yn cysylltu ag ysgrifennydd dyddiadur y Gweinidog yn uniongyrchol i drefnu cyfarfod a gofyn iddynt adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, a nododd eu bod yn am ystyried y mater ymhellach ar ôl i ymateb y deisebwr ddod i law.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn iddi a hoffai dderbyn cynnig y Prif Weithredwr i gyfarfod â'i swyddogion yn lleol.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i:
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn a fydd yn ystyried cynyddu brigdwf coed yn nhrefi a dinasoedd Cymru fel blaenoriaeth ar gyfer proses y Datganiad Ardal y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyfrannu ato; a
· thynnu sylw'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig at y ddeiseb gan ei fod yn gwneud gwaith ar y mater ar hyn o bryd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos bod y ddeiseb wedi cyrraedd ei nod.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn am ei barn am sylwadau diweddaraf y deisebydd cyn penderfynu ar sut i fwrw ymlaen a'r ddeiseb.
Datganodd David Rowlands y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi mynd o’r blaen i gyfarfodydd yr ymgyrch i ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn a nododd ei gefnogaeth i'r ymdrechion i ail-agor y Ffordd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn am ragor o fanylion ynghylch amserlen yr astudiaeth o ddichonoldeb masnachol a rheolaeth y Ffordd ac i ofyn am eu barn am sylwadau'r deisebydd yn ymwneud â chyllid ar gyfer cyfleusterau eraill ar gyfer defnyddwyr beiciau mynydd.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i:
· aros am sylwadau pellach y deisebydd ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet; ac
· ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet yn gofyn iddi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddi benderfynu ar ddull Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y trinnir trwyddedau presennol a pholisi yn y dyfodol.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Oherwydd bod amser yn brin, gohiriwyd y ddeiseb tan y cyfarfod ar 19 Medi.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Diolchodd Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i Beth Baldwin, gan ganmol ei dewrder wrth gyflwyno'r ddeiseb a chan gynnig eu cydymdeimlad diffuant iddi ar golli ei mab, Peter.
Atebodd Beth Baldwin, Sara Moran a Libby Dowling gwestiynau gan y Pwyllgor.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i:
· wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i roi tystiolaeth lafar mewn cyfarfod yn gynnar yn nhymor yr hydref; ac
· ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol ac at gyrff proffesiynol yn gofyn am fwy o wybodaeth fanwl, yn enwedig ynghylch diagnosis a gofal mewn lleoliadau gofal sylfaenol.